This summer, Ann Rowlands, local resident and village hall member as part of a group of four adventurous grandparents and friends are setting off on an incredible challenge; cycling nearly 1,200 km along the Vélodyssée, one of Europe’s most stunning long-distance cycling routes. They’ll be pedalling from Exeter to Santander between 31st May and 26th June, covering France’s breath-taking Atlantic coastline before reaching Spain. But its just not the rewarding journey, they are cycling to support Cylch Meithrin Glanrafon, a place that means so much to them. Cylch Glanrafon promotes the Welsh language from an early age, ensuring that our heritage, culture, and language continue to thrive. As a charity, they need everyone to support them and raise money so the setting can carry on running. The group will be be sharing regular updates, photos, and videos from the road. Join us on this journey and be part of something special! Your support no matter how big or small will make a real difference.
Yr haf hwn Ann Rowlands preswylydd lleol ac aelod o’r neuadd bentref fel rhan o grŵp o bedwar ffrind a neiniau a theidiau anturus – yn cychwyn ar her epig; beicio bron i 1,200 km ar hyd y Vélodyssée, un o’r llwybrau beicio pellter hir mwyaf trawiadol yn Ewrop. Byddant yn teithio o Exeter i Santander rhwng 31 Mai a 26 Mehefin, gan ddilyn arfordir anhygoel Ffrainc cyn croesi i Sbaen. Ond nid y daith yn unig sy’n bwysig maen nhw’n beicio i gefnogi Cylch Meithrin Glanrafon, lle sy’n golygu cymaint i nhw.
Mae Cylch Glanrafon yn fwy na meithrinfa mae’n gymuned lle mae plant yn cael eu trochi yn yr iaith Gymraeg o oedran ifanc, gan sicrhau fod ein hiaith, ein treftadaeth a’n diwylliant yn parhau i ffynnu. Mae un ohonom, Nain & Taid Marcel, yn fam-gu i blentyn sy’n mynychu’r Cylch, sy’n gwneud yr achos hwn hyd yn oed yn fwy personol i ni.
Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n hunaniaeth, ac mae Cylchoedd fel Glanrafon yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau ei dyfodol. Drwy gefnogi’r ymgyrch hon, byddwch yn helpu i ddarparu adnoddau, offer chwarae a deunyddiau dysgu i’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg.
Bydd y grwp yn rhannu diweddariadau, lluniau a fideos rheolaidd o’r daith o ddringo bryniau serth i ddarganfod golygfeydd arfordirol godidog. Dewch i fod yn rhan o’r antur hon gyda ni!
Bydd eich cefnogaeth boed yn fawr neu’n fach yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
https://gofund.me/3d786da7